Pobun

Ciw-restr ar gyfer Car Tenau

(Y Criwr) Pell ac agos yma dewch,
 
(Pobun) Yr ydych yn edrych yn union fel estroniaid i mi.
(0, 4) 362 Yr argen fawr, fy nghâr Pobun, a fynnech chwi'n gyrru ni adref eto?
(Car Tew) Ni bydd hynny ddim mor hawdd i chwi, myn gafr, achos y mae'ch cogydd yn un mor dda, a'r gwin heblaw hynny yn twymo'r gwaed.
 
(Meistres Pobun) Ni wn i ddim beth a all fod wedi digwydd iddo.
(0, 4) 394 Ar f'enaid, Pobun, fy nghâr, a ddaeth iselder ysbryd trosoch?
(0, 4) 395 Ac onid do, yna pa aflwydd sydd arnoch?
(Car Tew) Mi wn.
 
(Morwyn Ieuanc 2) [Mi glywais sôn fod maen i'w gael y tu mewn i'r wennol, a bod y meddygon mawr yn ei ddefnyddio, Chelidonius y gelwir ef.]
(0, 4) 404 [Nage, Calcedon!
(0, 4) 405 Mynych y clywais sôn amdano.
(0, 4) 406 Y mae'n fawr ei effaith yn erbyn iselder ysbryd.]
(Morwyn Ieuanc 3) 'Rwy'n meddwl fy hun mai drwy gydymdeimlad y bydd raid ei wella.
 
(0, 4) 458 Gwae fi, gwae fi, O Wener, gwae fyfi,
(0, 4) 459 O Wener,
(0, 4) 460 E weli faint fy nolur;
(0, 4) 461 Gwae fi!
(0, 4) 462 Pe byddai eira mân
(0, 4) 463 Yn gorwedd ar fy mynwes
(0, 4) 464 Fe'i cadwai'r galon dân
(0, 4) 465 O hyd i gyd yn gynnes,
(0, 4) 466 O gwrando, Wener lân!
(Pobun) Ond pa sŵn clychau yw hwnyna?
 
(Pobun) Dywed, fy nghyfaill, pwy sy'n galw "Pobun"' mor groch?
(0, 4) 503 Atsain ein canu ni sy'n rhedeg yn eich clustiau, efallai.
(Pobun) Na, na!
 
(Car Tew) Ni chlywaf i ddim llef.
(0, 4) 515 Nac ychwaith un adlais gwan.
(Cydymaith) {Gan fynd i ymyl Pobun.}
 
(Car Tew) Nid am adael y mae'r sôn—cywilydd i mi fyddai'ch gadael mewn trybini,
(0, 7) 693 Digwydded i chwi ai da ai drwg, cymerwn ein dau ein rhan gyda chwi.
(Car Tew) [Cymerwn, fel y dywedwyd, ynwir!
 
(Car Tew) [Nid wrth glustiau byddar yr oeddych yn llefaru.]
(0, 7) 711 [Ha, nage'n wir, myn fy ffydd!]
(Pobun) [Ni welir monof byth yn f'ôl.]
 
(Car Tew) H'm, gâr!
(0, 7) 719 Ie, feddyliwn i, trueni am hynny.
(Car Tew) Felly'r ydych yn barnu megis finnau?
 
(Pobun) Fy nghâr, oni ddeui di gyda mi?
(0, 7) 744 Duw annwyl!
(0, 7) 745 Y mae cwlwm gwythi yn fy nhroed, peth blin gynddeiriog, Pobun—bydd yn digwydd i mi'n sydyn iawn.
(Car Tew) [{Gan aros ennyd a dywedyd dros ei ysgwydd.}
 
(Pobun) Addawsant lawer i mi'n rhwydd, ond wedi'r cwbl, torri eu gair.]
(0, 7) 755 [{Gan droi unwaith eto at Pobun.}
(0, 7) 756 Nid yw'n arferiad gofyn i bobl fynd i ganlyn rhywun ar daith yn y fath fodd; nid yw'r fath beth yn gymwys nac yn iawn, yn ôl fy meddwl i.
(0, 7) 757 Y mae gennyt ddigon o daeogion a chennyt hawl i alw arnynt, ond y mae mwy o werth na hynny ar d'annwyl geraint.]